Bu farw’r actor a’r cyflwynydd Noel Williams yn 94 oed fis diwethaf, ac mae wedi’i ddisgrifio fel “un o’r bobol neisia i fyw” ac yn “ffrind da” a chanddo “synnwyr digrifwch oedd yn ein llorio ar adegau”.

Roedd yn adnabyddus am ymddangos ar nifer o gyfresi drama cynnar S4C, gan gynnwys Lleifior, Tydi Bywyd yn Boen a Barbarossa, yn ogystal â ffilmiau llwyddiannus yn y Gymraeg, Hedd Wyn ac Oed yr Addewid.

Fe serennodd sawl gwaith ar y sgrîn fawr a bach yn Saesneg hefyd, yn bennaf yn y ffilm A Christmas Reunion, pan ymddangosodd ochr yn ochr â dau o fawrion y maes, James Coburn ac Edward Woodward.

Ar hyd ei oes, roedd yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg ac yn cael ei ddisgrifio fel “Cymro balch”.

Bu nifer o’i gyd-actorion yn talu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Ges i’r fraint o’i adnabod a chydweithio ag o sawl gwaith, ac roedd wastad yn bleser,” meddai’r cyflwynydd Alun Elidyr, a rannodd y sgrîn gyda fe yn Lleifior.

“Coffa da amdano, mi fywiodd yn garedig a da.”

Un arall a serennodd ag e yn Lleifior oedd yr actores a’r awdures Nia Medi.

“Un o’r bobol neisia [i] fyw,” meddai.

“Pleser pur oedd cydweithio ag o a dod i’w adnabod fel ffrind da dros y misoedd ar Lleifior – dyn hynaws, gwybodus, diddorol, balch o’i wreiddiau, a synnwyr digrifwch oedd yn ein llorio ar adegau.”

Roedd Sharon Morgan wedi cyd-actio gydag o yn y gyfres Barbarossa.

“Mor drist i glywed hyn – gŵr bonheddig ac annwyl tu hwnt,” meddai.

Dywedodd yr actores Sian Wheldon ei fod yn “ŵr arbennig”, ac mai “braint oedd cael ei adnabod.”

Bywyd a gyrfa

Roedd Noel Williams yn wreiddiol o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, ond fe ddechreuodd ei yrfa fel athro yng Nghaerdydd.

Yn ystod ei gyfnod yn y brifddinas, roedd yn gweithio’n rhan amser ym myd y cyfryngau i ddechrau, gan ddarlledu’r newyddion ar gyfer BBC Cymru a BBC Radio Cymru yn y 1960au.

Yn y cyfnod hwn hefyd, fe ymgeisiodd i fod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyrain y Rhondda yn yr Etholiad Cyffredinol yn 1959, ond cafodd ei guro gan yr ymgeisydd Llafur.

Pan ymddeolodd o’i waith fel athro, mentrodd i’r diwydiant actio.

Roedd un o’i rolau cyntaf yn y gyfres ddrama Y Stafell Ddirgel, a gafodd ei haddasu o nofel Marion Eames a’i darlledu yn Gymraeg ar BBC One Wales ym 1971.

Fe gafodd rannau yn nifer o glasuron drama’r sianel newydd sbon S4C – yn un o brif actorion y gyfres ddrama wleidyddol Cysgodion Gdansk ym 1987, a’r gyfres ddirgel Barbarossa ym 1989.

Yn y 1990au, fe actiodd yn y gyfres ddrama Lleifior, a oedd wedi ei seilio ar nofelau Islwyn Ffowc Elis, ac yn y gyfres eiconig, Tydi Bywyd yn Boen.

Ond ei rôl fel Cadeirydd y Tribiwnlys yn y ffilm arloesol Hedd Wyn, sef yr unig ffilm Gymraeg i gael ei henwebu ar gyfer Oscar, oedd un o uchafbwyntiau ei yrfa,

Yn ddiweddarach, ymddangosodd yn y ffilmiau Oed yr Addewid a Cwcw, yn ogystal â’r ddrama deledu Treflan, a oedd yn seiliedig ar gymeriadau’r awdur Daniel Owen.

Mae’n gadael ei wraig, Lena, a’u tri o blant, Huw, Rhys a Ffion.