Fe fydd Golwg, Lingo Newydd ac WCW a’i ffrindiau ymhlith y cyhoeddiadau fydd yn rhan o ddathliad deuddydd o gylchgronau Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.

Llwyfan AM, ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau, fydd yn cynnal y digwyddiad PRINT ar Fawrth 27 a 28.

Ymhlith y cyhoeddiadau eraill fydd yn rhan o’r digwyddiad mae Cylchgrawn Cara, New Welsh Review, O’r Pedwar Gwynt, Llên Natur, Wales Art Review, WCW a’i ffrindiau, Planet, Llafar Gwlad, Y Wawr, Poetry Wales Welsh Agenda.

Fe fydd elfennau digidol yn rhan o’r digwyddiad hefyd, yn ogystal â chyfle i danysgrifio i’r cyhoeddiadau.

Wedi’r digwyddiad, fe fydd PRINT yn dod yn sianel barhaus ar lwyfan AM.

‘Cyfle i gyrraedd cynulleidfa newydd’

“Bu’n flwyddyn heriol i barhau i gynhyrchu cylchgronau heb sôn am eu gwerthu nhw, ond trwy’r amserau heriol, mae cyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd,” meddai Siân Powell, prif weithredwr Golwg.

“Ar adeg pan fo lleisiau a newyddiaduraeth annibynnol yn dod yn bwysicach nag erioed i graffu, diddanu ac ysbrydoli, mae PRINT yn amserol iawn.

“Gobeithio y bydd cynulleidfa AM yn mwynhau pori’r cyfoeth o gylchgronau sydd ar gael yng Nghymru ac yn darganfod rhywbeth newydd.”

Gallwch bori tudalen Golwg ar lwyfan AM yma: AM Golwg