Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn mynd i sioe gyntaf Siopau Fferm a Deli yn Birmingham ddydd Sul.

Mae’r Farm Shop & Deli Show, a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham, yn sioe newydd sbon gyda’r nod o arddangos bwydydd newydd unigryw i siopau fferm, siopau delicatessen a neuaddau bwyd crefftus.

Bydd 11 cwmni o Gymru – llawer ohonynt yn enillwyr gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru – yn arddangos yno dan fantell ‘Arddangosfa Deli Cymreig’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn eu plith mae’r fenter llaeth organig deuluol o Sir Benfro, Trioni Cyf, fydd yn arddangos eu llaeth Daioni, ac yn datgelu ychydig o fanylion am ‘Daionic’ –  diod chwaraeon a gaiff ei lansio yn y dyfodol agos.

Mae gan Samosaco o Bontyclun yr unig safle pwrpasol ar gyfer gwneud samosa yng Nghymru, ac mae eu holl gynnyrch yn 100% llysieuol.

Bydd y cwmni yn gwerthu samosas, bhajees, pakoras, cymysgedd bhajee a chyris llysieuol yn ogystal â’u blwch detholiad parti newydd.

Mae ‘Welsh Aronia Berry Liqueur’ yn wirod unigryw a gaiff ei gynhyrchu a’i botelu yng Nghymru gan gwmni teuluol Aerona o fwyar aronia a dyfir ar fferm y teulu Jones yng Ngogledd Cymru.

Mae’r gwirod 25% ABV ar gael mewn poteli 50cl a’r poteli 25cl newydd ac fe’u gwerthir drwy siopau gwin a delis dethol, ffeiriau bwyd, marchnadoedd ffermwyr a gwerthiant uniongyrchol o’r fferm a gwefan.

Bydd Anne’s Patisserie yn temtio mynychwyr y sioe gyda’u detholiad o deisennau caws a phwdinau taffi gludiog. Mae’r patieserie o Sir y Fflint yn arbenigo mewn pwdinau a theisennau ansawdd uchel a wneir â llaw.

Mae Seren Foods yn fusnes teuluol bychan sy’n seiliedig ym mhentref Bangor Is-coed yng Ngogledd Cymru. Maent yn cynhyrchu amrywiaeth o jelis a orffennir gyda llaw mewn dulliau traddodiadol.

Yn cael eu dangos yn Birmingham fydd jeli gwin Merlot a phupur crac, jeli gwin rose, jeli gwin Chardonnay, jeli chili a mintys, jeli sinsir, chili a leim, jeli chili, jeli chili cryf a jeli gellyg a Pernod.

Mae Welsh Meat Online yn seiliedig yng Nghanolfan Rhagoriaeth a Sgiliau Cigyddion Cymru yn y Trallwng, ac mae ganddo safle cynhyrchu pwrpasol.

Y ddau gynnyrch safon uchel o Gymru y mae’r cwmni yn eu cyrchu yw cig eidion Celtic Pride a chig oen Cwm Irfon sy’n dod yn uniongyrchol o’r fferm.

Mae  Blue Whole Blueberries yn arbenigo mewn tyfu llus mawr o’i fferm ger Wrecsam. Mae’r cwmni wedi arallgyfeirio o werthu ffrwythau ffres i greu a chynhyrchu amrywiaeth o sawsiau, syrup, dresin salad a chymysgwyr diodydd yn seiliedig ar lus mawr.

Mae Siocled Moethus Sarah Bunton yn gwmni bychan ym Mhontarfynach sy’n cynhyrchu siocledi moethus gyda llaw gan ddefnyddio’r siocled gorau oll a chynhwysion lleol lle bynnag y bo modd.

Bydd y cwmni’n arddangos ei amrediad blychau siocled yn cynnwys : blwch dethol moethus, logiau siocled a chnau cyll, Florentines siocled moethus a blodau siocled moethus.

Mae Clam’s Handmade Cakes o Grughywel yn pobi teisennau torth traddodiadol, pobi hambwrdd, myffins a theisennau bach ar gyfer y farchnad gwasanaeth bwyd.

Mae’r becws hefyd yn cynhyrchu teisennau i’w manwerthu mewn meintiau llai sy’n gwerthu mewn gwahanol siopau ffarm, siopau deli ac archfarchnadoedd annibynnol ym mhob rhan o’r wlad.

Tyfodd Aballu Artisan Chocolatiers o Rossett ger Wrecsam o hobi yn fusnes ac mae’r cwmni’n awr yn gwneud mwy na 100 o wahanol flasau triwffl a chaiff mwy eu datblygu ar hyd yr amser gyda logiau triwffl, bariau siocled a pizzas siocled.

Y cynnyrch diweddaraf yw Chocolate Cheese – triwffl siocled y medrir ei ddefnyddio yn lle neu i gyd-fynd â bwrdd caws sawrus a’i fwyta gyda chraceri sawrus.

Yn ogystal â’i bwdinau gwobrwyol, bydd The Pudding Compartment – sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth pwrpasol – yn lansio amrediad newydd o deisennau caws unigol a gynlluniwyd ar gyfer y sector bwytai a gwasanaeth bwyd ac yn seiliedig ar eu teisennau caws gwobrwyol.

Mae 12 math –  chwe alcoholig (Wisgi Cymreig,  Baileys, Limoncello, Rym a Rhesin, Amaretto) a chwech heb fod yn alcoholig (lemon a  leim, mango a granadila, taffi gludiog, banoffi, siocled Llaeth, siocled tywyll, a sinsir).

Bydd yr arddangosfa yn Birmingham hefyd yn cynnwys samplau gan nifer o gwmnïau bwyd a diod eraill o Gymru gan gynnwys Halen Môn, ynghyd â chynhyrchwyr caws yn cynnwys: Y Cwt Caws, Caws Cenarth, Pant Mawr Cheese, Teifi Farmhouse Cheese a Hafod Welsh Organic Cheddar.

Bydd Arddangosfa Deli Cymru yn Neuadd 6, rhif stondin J171/170.