Mae cystadleuaeth genedlaethol wedi’i lansio fel rhan o Wobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2012, i ddod o hyd i’r llefydd gorau i brofi bwyd a diod o Gymru.
Mae pobl o Gymru yn cael eu hannog i fynd ar-lein i www.cymruygwirflas.co.uk er mwyn pleidleisio dros eu hoff fwyty, caffi, parlwr te, siop fferm, deli, siop gig neu siop bysgod. Y dyddiad cau ar gyfer bwrw pleidlais yw 28 Mai.
Bydd pob un sy’n mynd ati i enwebu yn cael ei gynnwys yn awtomatig mewn cystadleuaeth i ennill profiad bwyd seren Michelin neu hamper bwyd y Gwir Flas.
Peter Jackson yw Cadeirydd Cymdeithas Coginiol Cymru (Welsh Culinary Association) ac mae hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o feirniadu Gwobrau Cymru y Gwir Flas.
Dywedodd Peter Jackson bod fformat newydd Gwobrau Dewis y Bobl yn gyffrous iawn, lle bydd cwsmeriaid yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn cael cyrraedd y rhestr fer:
“Yn ystod y degawd diwethaf, mae’r diwydiant bwyd a diod wedi dod i gydnabod Gwobrau’r Gwir Flas fel uchafbwynt sy’n dathlu llwyddiant a rhagoriaeth. Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi gweld enillwyr rhagorol yn y catgorïau manwerthu a bwyta allan,” meddai Jackson. “Wedi dweud hynny, tan eleni, cyfrifoldeb perchnogion bwytai neu siopau unigol oedd enwebu eu hunain i gael eu beirniadu. Ond eleni, pleidlais y cyhoedd fydd yn pennu pwy fydd yn haeddu’r gwobrau ac mae hyn wir yn cyflwyno dimensiwn hollol newydd i’r gwobrau.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog Bwyd Llywodraeth Cymru, Alun Davies: “Hoffwn weld pobl Cymru yn cofleidio’r datblygiad newydd cyffrous hwn, a byddwn yn annog cymaint â phosibl ohonoch i bleidleisio yng Ngwobrau Dewis y Bobl. Dyma eich cyfle i ddweud eich dweud ar rywbeth sy’n wirioneddol bwysig ym mywydau pawb ohonom o ddydd i ddydd.
“Mae bwyd Cymru gyda’r gorau yn y byd o ran ei ansawdd, ac mae’n cyfrannu’n fawr at ddiwylliant Cymru, yn ogystal â’r economi. Mae ymdrechion mannau gwerthu Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld canlyniadau’r gystadleuaeth.”
Mae manylion llawn sut i bleidleisio a rheolau’r gystadleuaeth i’w gweld ar-lein yn www.cymruygwirflas.co.uk.
Unwaith y bydd pleidleisiau’r cyhoedd wedi’u cyfrif, ac ar ôl cyfres o ymweliadau ‘cwsmer cudd’, tîm beirniadu y Gwir Flas fydd yn gyfrifol am benderfynu pa fusnesau fydd yn cipio’r gwobrau Aur, Arian ac Efydd ym mhob categori. Caiff enillwyr Gowbrau Bwyd Dewis y Bobl eu cyhoeddi yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Llanelwedd fis Gorffennaf.