Bydd cig oen Cymru yn cael ei hybu yng ngŵyl fwyd f
wyaf y Dwyrain Canol.

‘Gulfood’ yw’r digwyddiad masnach fwyaf yn y rhanbarth, yn denu mwy na 60,000 o ymwelwyr i Ganolfan Gynadledda ac Arddangos Ryngwladol Dubai, rhwng Chwefror 19 a 22.

Mae cig oen Cymru wedi bod ar werth yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ers 2007, ac wedi datblygu i fod yn gynnyrch poblogaidd.

Bydd mudiad Hybu Cig Cymru yn Gulfood fel rhan o Bafiliwn Gwir Flas Llywodraeth Cymru.

“Mae allforion yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y brand Cig Oen Cymru,” dywedodd Laura Dodds, rheolwr marchnata Hybu Cig Cymru.

“Maen nhw’n gyfrifol am oddeutu traean o holl werthiannau Cig Oen Cymru , ac mae yna alw cynyddol nid yn unig yn ein marchnadoedd traddodiadol yn Ewrop ond hefyd yng Nghanada a’r Dwyrain Pell.”

Arddangoswyr o 107 o wledydd

Roedd 4,000 o arddangoswyr o 107 o wledydd yn y digwyddiad y llynedd.

Yr Emiraethau Arabaidd Unedig yw brif farchnad allforio’r DU yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Allforiwyd gwerth £109 miliwn o nwyddau yn 2010, cynnydd o 22% o’i gymharu â 2009.