Shane Williams
Bydd y chwaraewr rygbi Shane Williams a’r gyflwynwraig Lowri Morgan yn dangos eu doniau coginio ar faes Eisteddfod yr Urdd Abertawe yr wythnos nesaf.

Bydd y ddau’n cymryd rhan mewn arddangosfeydd coginio Cig oen a chig eidion Cymru wedi’u trefnu gan yr asiantaeth hyrwyddo cig coch Hybu Cig Cymru, ddydd Gwener 3 Mehefin.

Dywedodd Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru, fydd yn cynnal yr adrddangosfeydd, fod cysylltiad cryf rhwng “llwyddiant mewn chwaraeon a diet cytbwys, iach”.

‘Hanfodol’

“Mae diet iach yn hanfodol i bawb,” meddai, “ond yn enwedig i unrhyw un sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

“Does dim ots a ydyn nhw’n arwr rygbi sydd wedi ennill Camp Lawn, pencampwr Olympaidd, yn redwr marathon neu’n rhywun sy’n ymuno â thîm lleol ar gyfer gêm o bêl-droed yn y parc, mae’r un peth yn wir.

“Mae HCC wrth ei fodd bod dau o sêr amlycaf byd y campau yng Nghymru yn fodlon ymuno â ni i rannu eu brwdfrydedd dros ryseitiau cig oen Cymru a chig eidion Cymru gyda phlant a’u rhieni yn ystod yr Eisteddfod,” meddai Elwen.

“Byddan nhw hefyd yn gofyn i blant ymuno â nhw ar y llwyfan i baratoi rhai o’u prydau.”