.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd yn hwb mawr i’r economi leol.

Mae’r farchnad yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Porthmadog am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr, a bydd yn cael ei chynnal ar Sadwrn olaf pob mis o hynny allan.

Mae’n cael ei threfnu ar y cyd rhwng asiantaethau Llwyddo yng Ngwynedd a Gwynedd Gynaladwy o ganlyniad i’r galw’n lleol i sefydlu marchnad yn y dref.

Tref fywiog

“Mae Gwynedd Gynaladwy wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn canolbwyntio ar faterion bwyd lleol,” meddai Cynthia Hughes o’r mudiad.

“Roedd llawer o’r cynhyrchwyr a phrynwyr yn dangos diddordeb mewn sefydlu marchnad cynnyrch lleol ym Mhorthmadog.”

“Mae unrhyw un sy’n gyrru trwy’r dref yn gwybod fod Porthmadog yn dref fywiog ac ein nod yw i fanteisio ar hynny gan ychwanegu at economi’r dref a Gwynedd” ychwanegodd

Cyflwynydd teledu i agor y farchnad

Bydd y farchnad yn cael ei hagor yn swyddogol gan y cyflwynydd garddio poblogaidd Russell Jones, sy’n adnabyddus i wylwyr S4C.

I ddathlu’r lansiad bydd yna nifer o weithgareddau arbennig yn cael eu cynnal yn cynnwys arddangosfeydd coginio gan y gogyddes amlwg Nerys Howell, gweithdai garddio gyda Russell Jones a sesiynau blasu caws gyda Geraint Jones o siop Y Bwtri.

Mae trefnwyr yn gobeithio mae’r prif atyniad fydd y stondinau bwyd amrywiol wrth gwrs, ac mae disgwyl i o leiaf 28 o gynhyrchwyr lleol ddod â stondin.

Ar ben hyn oll bydd y 200 ymwelydd cyntaf i’r farchnad yn cael pecyn o gynnyrch lleol am ddim, yn ogystal â thaleb gwerth £5 i’w gwario yn y farchnad.