Bu i werth allforio cig oen Cymreig a chig eidion Cymreig gynyddu i £5m yn 2010 yn ôl ffigyrau gan Hybu Cig Cymru.
Dangosir canlyniadau 2010 fod gwerth y cig a allforiwyd wedi codi i fwy na £147 miliwn, gyda wŷn Cymreig yn gweld £1 miliwn o godiad, a chig eidion Cymreig godi i £4.4 miliwn o’i gymharu â 2009.
Yn ôl Glyn Roberts, un o aelodau bwrdd HCC, mae hyn yn glod i waith y ffermwyr ac yn “hwb aruthrol i economi’r wlad gan beri i ardaloedd gwledig fod mwy cynaliadwy ac felly yn derbyn mwy o elw.”
“Dangosir y ffigyrau yma wir werth cynnyrch Cymreig a’i hymwybyddiaeth i weddill y byd” ychwanegodd.
Statws dynodiad daearyddol gwarchodedig yn ffactor
Dywed Glyn Roberts fod gan Gymru, yn wahanol i Loegr, ei statws arbennig ei hun a elwir yn ‘statws dynodiad daearyddol gwarchodedig,’ sydd yn golygu fod rhaid i’r wŷn gael eu geni a’u magu yng Nghymru, a’u lladd yng Nghymru mewn lladd-dai sydd wedi eu cymeradwyo gan HCC.
Mae’r statws yma “yn yr un dosbarth ac y mae champagne yn Ffrainc, fel canlyniad felly mae cig o Gymru yn rhywbeth dylem wir ymfalchïo ynddo.”
“Mae gwead i’w weld yn niwydiant y cig moch gyda’r amaethwr yn cael dipyn o bres, y lladd-dai, yr arwerthwr a’r cigyddion, ac felly mae pawb yn hapus” meddai Glyn Roberts.
Mewn byd sydd ohoni ble mae cynaliadwyedd yn allweddol, mae hyn yn ateb y galw o’r dyhead yn ôl Glyn Roberts.
Lle i wella o hyd
Ond mae Glyn Roberts yn teimlo fod bwlch mawr i’w llenwi yng Nghymru, teimlai “y dylem werthfawrogi a thrysori ein cig ein hunain”.
Gan ddefnyddio ysgolion yn yr Eidal fel enghraifft dywed eu bod yn gorfod cael cig sydd gyda’r statws dynodiad daearyddol gwarchodedig yma yn yr ysgolion, ac felly “brysied y dydd i ni yma Nghymru sylweddoli pa mor lwcus ydym fel cenedl.”