Tomos Parry
Mae cogydd o Fôn sydd wedi coginio i Brad Pitt, David Cameron a Pink Floyd ar fin mentro ar ei liwt ei hun.
Am y tair blynedd diwethaf mae Tomos Parry wedi bod yn brif gogydd ym mwyty Kitty Fishers ym Mayfair, gan ennill nifer o wobrau am ei grefft.
Ac er bod enwogion gan gynnwys Nigella Lawson a Gordon Ramsay wedi galw am fwyd ganddo, ynghyd â David Cameron pan oedd yn Brif Weinidog, dywed Tomos Parry nad oedd yn teimlo hynny’n bwysau.
“Mi oedd o’n brofiad reit od, ond doeddwn i ddim yn ei weld o’n bwysau. Mae’n fwy o bwysau i goginio i fy ffrindiau, nawn nhw jest deud be’ maen nhw’n feddwl.”
Bwyty newydd
Mae’r gŵr 31 oed o Landegfan, Ynys Môn yn gobeithio agor ei fwyty newydd yn Llundain erbyn diwedd y flwyddyn gan arbenigo ar fwyd môr a’i goginio mewn cegin agored.
“Mae tipyn bach o ddrama am yr holl beth,” meddai wrth golwg360 gan esbonio ei fod yn cael ei ysbrydoli gan ddulliau coginio Gwlad y Basg sy’n coginio ar bren. Mae hefyd yn manteisio ar gynnyrch o Gymru.
“Dw i’n defnyddio oysters o Borthaethwy, ac mae’n neis gallu dweud wrth bobol fod y bwyd yn dod o ble wnes i dyfu fyny.”
Dywed ei fod am greu cysylltiadau uniongyrchol â ffermwyr a chynhyrchwyr ar gyfer ei fwyty newydd.
“Dw i ddim yn gwybod beth wnaiff ddigwydd efo Brexit, ac mae’n gwneud fi’n reit nerfus. Mae cadw statws Ewropeaidd ein bwydydd ni’n ofnadwy o bwysig,” meddai.
Môn yn ysbrydoli
Esboniodd fod gyrfa cogydd yn un prysur a’i fod yn gweithio tua 16 awr y dydd rai dyddiau.
“Ond dw i wrth fy modd yn cael mynd adra i Ynys Môn. Mae’n reit inspiring i fod mor agos at natur, achos dydach chi ddim yn gweld y môr yn Llundain o gwbwl.”
Er hyn, gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes a ddilynodd ym Mhrifysgol Caerdydd, ond dywed iddo gael ei ysbrydoli i goginio gan ei fam yn ogystal â chael profiadau mewn rhai o fwytai Caerdydd.
Er na fydd yn mynd i’r Eisteddfod eleni, mae’n gobeithio y bydd pobol yn manteisio ar lefydd bwyta’r ynys.
“Mae’r llefydd bwyta a’r cynnyrch o Fôn a gogledd Cymru yn wirioneddol wych, a gobeithio y bydd pobol yn manteisio ar hynny adeg yr Eisteddfod.”