Mae’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi bod 2016 wedi bod yn flwyddyn dda i’r diwydiant bwyd yng Nghymru.
Wrth ymweld â chynhyrchydd caws gafr ffres fwyaf y Deyrnas Unedig yn Y Fenni, dywedodd Lesley Griffiths fod Cymru mae mewn sefyllfa dda i ymdopi ag unrhyw heriau a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol.
Mae’r Llywodraeth hanner ffordd tuag at gyrraedd targed o sicrhau twf o 30% erbyn 2020 ac yn ystod chwe mis cyntaf 2016, roedd allforion bwyd a diod o Gymru yn werth £15.2 miliwn yn fwy nag yn ystod chwe mis cyntaf 2015.
Roedd trosiant sector Bwyd a Diod Cymru yn werth £6.1 biliwn yn 2015 ac yn ôl Lesley Griffiths mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer 2016 hefyd.
Dyfroedd garw o’n blaenau
Er llwyddiannau y flwyddyn hon mae’r ysgrifennydd wedi rhybuddio ynglŷn ag effaith Brexit ar y diwydiant yn y dyfodol.
“Wrth gwrs, bydd dyfroedd garw o’n blaenau yn y blynyddoedd sydd i ddod, wrth inni wynebu dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae allforion yn werth £260 miliwn i’r diwydiant, ac mae bron 90% o’r allforion hynny’n mynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.”