Mae dyn 64 oed wedi marw yn y môr oddi ar arfordir Caernarfon.
Roedd o wedi bod gyda grŵp o ffrindiau yn plymio yn yr afon Menai pan gafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad brynhawn dydd Sul (Medi 12).
Roedd tîm Gwylwyr y Glannau wedi bod yn chwilio am y dyn, ac fe gafodd corff ei ganfod yn nes ymlaen yn y dydd.
Dydy’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, a dydy’r dyn heb gael ei enwi.
Datganiad
“Yn anffodus, mae dyn 64 oed wedi marw tra ar wibdaith blymio oddi ar arfordir Caernarfon,” meddai’r heddlu mewn datganiad.
“Roedd y dyn yn rhan o grŵp o ddeifwyr a oedd wedi mynd allan ond heb ail-wynebu ar yr un pryd â gweddill ei grŵp.
“Cafodd yr heddlu eu galw ychydig cyn 3.30pm dydd Sul, 12 Medi, gan Wylwyr y Glannau i ofyn am gymorth gyda’r digwyddiad ac fe lansiwyd chwiliad amlasiantaethol.
“Cafodd y plymiwr ei ddarganfod ond yn anffodus cafodd ei bennu’n farw tua 7 yh.”