Mae gwasanaeth dŵr arferol wedi ei adfer i 99% o gartrefi Cymru, yn ôl cwmni Dŵr Cymru.

Ond mae problemau mwy nag arfer yn parhau mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn y canolbarth, a hynny oherwydd effaith y tywydd rhew.

Fe fydd rhaid i drigolion mewn pentrefi yn ardal St Harmon ac Abaty Cwmhir ym Mhowys aros am oriau eto cyn cael eu cyflenwad yn ôl ac fe fydd poteli dŵr yn cael eu rhannu yno’r bore yma.

Mae Pennaeth Gweithrediadau’r cwmni, Peter Perry, hefyd wedi ymddiheuro i bobol yn ardal Horeb ger Caerfyrddin am fod problemau’n parhau yno ddyddiau ar ôl trwsio is-orsaf trin dŵr.

Roedd swigod awyr yn atal y cyflenwad i tua 50 o gartrefi, meddai.

Llun – Dwr Cymru