Mae buwch o frid hynod o brin wedi rhoi genedigaeth i lo sydd â phatrwm tebyg i banda.
Fe gafodd y ‘llo panda’ ei eni yn Larimer County, Colorado, a’r gred ydi mai dim ond 24 o greaduriaid tebyg sydd yna trwy’r byd i gyd.
Mae’r llo wedi ei enwi’n Ben. Fe gafodd ei eni fore Gwener, i fam sy’n perthyn i frid y Lowline Angus.
Mae’r ffermwr sy’n cadw’r gwartheg bychain hefyd yn cadw cangarw llai o faint na’r arfer. Mae’r patrwm ar y llo newydd wedi digwydd o ganlyniad i arbrofi genetig.
Mae gan y fuwch newydd ‘felt’ gwyn, ac mae yna gylchoedd duon o gwmpas y llygaid ar wyneb gwyn.