Mae ymchwiliad wedi dechrau i’r anrhefn mewn carchara agored yn ne Lloegr pan gafodd mwy na chwech o adeiladau eu llosgi.

Y gred yw bod y terfysg wedi dechrau wrth i swyddogion geisio atal alcohol rhag cael ei smyglo i mewn i Garchar Agored Ford ger Arundel yng Ngorllewin Sussex.

Yn ôl Cymdeithas y Swyddogion Carchar, roedd tua 40 o garcharorion wedi cymryd rhan ar ôl gwrthod derbyn prawf anadl.

Roedd alcohol wedi bod yn broblem yn y carchar ers tro, medden nhw, ond roedd lefelau staffio’n broblem hefyd.

‘Addas’

Mae Prif Weithredwr Y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol wedi amddiffyn y sefyllfa ar ôl honiad mai dim ond dau swyddog a phedwar o staff cynorthwyol oedd yno pan ddechreuodd yr helynt, yn gofalu am 500 o garcharorion.

Yn ôl Michael Spurr, roedd y lefelau staffio’n “addas” ar gyfer carchar o’r fath ac roedd hefyd yn dweud nad oedd y difrod cynddrwg ag yr oedd rhai adroddiadau’n ei awgrymu.

Fe gyrhaeddodd yr helynt ei anterth tua chanol dydd ddoe ond roedd yr awdurdodau wedi ei reoli erbyn deg o’r gloch y nos.

Yn ôl y Gweinidog Carchardai, Crispin Blunt, mae tua 150 o garcharorion wedi eu symud i garchardai mwy caeth – naill ai oherwydd eu bod wedi cymryd rhan neu oherwydd bod eu stafelloedd wedi eu difrodi.

Llun: Carchar Agored Ford