Mae ffliw moch wedi hawlio bywyd gwr 37 oed o Wrecsam.
Roedd Martin Clorey newydd briodi cyn y Nadolig, ond fe gafodd ei ddwyn i Ysbyty Maelor, Wrecsam ar Wyl San Steffan.
Mae cwest i’r farwolaeth wedi ei agor a’i ohirio, ond mae ei wraig wedi cadarnhau wrth bapur newydd lleol y Wrexham Evening Leader mai ffliw moch oedd achos ei farwolaeth.