Cafodd Dilma Rousseff ei derbyn yn arlywydd benywaidd cyntaf Brasil heddiw.
Mae’r wraig 63 mlwydd oed yn camu i brif swydd gwlad fwyaf America Ladin, gwlad sydd wedi tyfu’n ariannol ac yn wleidyddol ar y llwyfan rhyngwladol dan y cyn-Arlywydd, Luiz Inacio Lula da Silva.
Roedd yn gadael y swydd yr arlywydd mwya’ poblogaidd i fod wrth y llyw ym Mrasil, gyda 87% o’r boblogaeth yn datgan eu cefnogaeth iddo, hyd at ei wythnos olaf yn y swydd.
Dilma Rousseff oedd dewis Silva fel yr ymgeisydd i’w ddilyn.
Fe gymrodd hi’r llw heddiw wedi’i gwisgo mewn crys-T a siaced wen, ochr yn ochr â’r Prif Weinidog, Michel Temer.