Mae dyn a dynes wedi eu lladd, ar ôl i falwn awyr poeth ddisgyn i’r ddaear ger clwb yn ne orllewin Lloegr heddiw.
Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 9.30 y bore ger Clwb Golff Fosseway yn Midsomer Norton ger Caerfaddon yng Ngwlad yr Haf.
Mae Heddlu Avon a Somerset wedi cadarnhau na chafodd neb ar y ddaear eu hanafu yn ystod y digwyddiad, a dydyn nhw ddim yn credu bod yr un awyren na llong awyr arall yn gysylltiedig â’r ddamwain.