Mae’r Prif Arolygydd Neil Kinrade, un o brif swyddogion Heddlu De Cymru, wedi derbyn Medal Heddlu y Frenhines yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.
Mae wedi treulio 33 mlynedd yn gweithio yn ne Cymru, ers cael ei gyflogi gyntaf i weithio yn ei dre’ enedigol, Caerffili, cyn treulio blynyddoedd ar y strydoedd yn Gelligaer a Bedwas.
Meddai’r Prif Gwnstabl Peter Vaughan: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn hollol haeddiannol, oherwydd mae Neil wedi gweithio’n ddiflino ar hyd y blynyddoedd i adeiladu parch ac ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a’r cymunedau.
“Mae wedi defnyddio ei steil bersonol, unigryw, a’i ddylanwad i greu perthynas dda gyda rhai grwpiau a all fod yn anodd ymgyrraedd atyn nhw, weithiau.”
Mae Neil Kindrade yn briod â Claudia, sy’n blismones gyda Heddlu De Cymru.
“Mae yna fanteision bod y ddau ohonon ni ar y job,” meddai Neil Kinrade, “ond fel cwnstabl, mae hi’n dod â’i gwaith gartre’ gyda hi. Weithiau, mae’n rhaid i ni gael time out wrth y ford amser swper!”