Mae disgwyl i bron un o bob pump o bobl sy’n byw ym Mhrydain heddiw fyw i ddathlu eu penblwydd yn gant oed, yn ôl amcangyfrifon y llywodraeth.
Erbyn 2066 mae’n debygol y bydd o leiaf 507,000 o bobl dros 100 oed, gan gynnwys 7,700 dros 110 oed.
Byddai hyn yn gynnydd aruthrol ar y 11,800 sy’n 100 oed ym Mhrydain heddiw, gyda llai na 100 o’r rhain dros 110 oed.
Pensiynau
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n amcangyfrif y bydd y nifer o bobl dros 100 oed yn dyblu rhwng 2030 a 2035, a dyblu eto yn y ddegawd wedyn i 200,000 erbyn 2045.
Er bod y cynnydd mewn disgwyliad oes yn newyddion da i unigolion, mae’n debyg o roi pwysau sylweddol ar bensiynau.
“Mae’r ffigurau yma’n dangos pa mor bwysig yw hi i gynllunio ymlaen at ein blynyddoedd hŷn,” meddai’r Gweinidog Pensiynau Steve Webb.
“Fe fydd miliynau lawer ohonon ni’n treulio tua thraean neu fwy o’n bywydau mewn ymddeoliad yn y dyfodol.”