Pe byddai Gwynfor Evans yn cyflawni ei fwriad i ymprydio i farwolaeth yn 1980, byddai perygl i Blaid Cymru syrthio i ddwylo ‘eithafwyr asgell chwith’.

Dyna oedd rhybudd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Nicholas Edwards, mewn cyfarfod o gabinet llywodraeth Margaret Thatcher ym mis Mehefin 1980.

Wrth i bapurau’r cabinet am 1980 gael eu datgelu am y tro cyntaf o dan y rheol 30 mlynedd, daw pryderon y llywodraeth yn amlwg am fygythiad Gwynfor Evans.

“Fe allai fod llawer o densiynau a diflastod yng Nghymru’n ddiweddarach eleni os bydd [Gwynfor Evans] yn parhau â’i fwriad,” meddai Nicholas Edwards wrth ei gyd-aelodau o’r cabinet.

Caiff cryfder teimladau Nicholas Edwards eu cadarnhau gan yr Arglwydd Roberts o Gonwy, yr Is-ysgrifennydd Seneddol yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd:

“A’r ddau ohonon ni wedi llwyddo i gynnwys addewid am sianel deledu Gymraeg ym maniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer Cymru’r flwyddyn cynt, roedden ni’n teimlo bod egwyddor pwysig wedi cael ei dorri,” meddai wrth Golwg360.

Pryder Whitelaw

Mae papurau cyfarfod cabinet Awst 7 y flwyddyn honno’n dangos bod yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, hefyd yn bryderus.

“Gallai’r drafodaeth ar y Mesur Darlledu ddigwydd o dan amgylchiadau anodd a dirdynnol petai Gwynfor Evans, llywydd Plaid Cymru, yn marw neu’n dod yn ddifrifol wael o ganlyniad i’w ympryd,” meddai.

“Mae popeth posibl yn cael ei wneud gan gyfeillion Mr Gwynfor Evans a chan ffigurau dylanwadol yng Nghymru i’w berswadio i beidio â chymryd y cam hwn, ond mae pob arwydd y bydd yn parhau â’i brotest,” rhybuddiodd.

Roedd Gwynfor Evans wedi cyhoeddi y byddai’n cychwyn ar ympryd ym mis Medi’r flwyddyn honno oni bai y byddai’r llywodraeth yn cadw at ei haddewid yn ei maniffesto i sefydlu sianel deledu Gymraeg.

Mae papurau’r cabinet yn profi am y tro cyntaf i hyn fod yn ffactor allweddol ym mhenderfyniad y llywodraeth i ildio i’r farn gyhoeddus yng Nghymru a sefydllu S4C.

‘Mwy o ofn yr arglwyddi na Gwynfor’

Mae’r Arglwydd Roberts, fodd bynnag, yn gwadu mai ofni canlyniadau ympryd Gwynfor Evans a barodd i William Whitelaw newid ei feddwl.

“Rhaid cofio bod William Whitelaw wedi bod yn ysgrifennydd Gogledd Iwerddon – doedd o ddim yn un i gymryd ei ddychryn yn hawdd,” meddai.

“Dw i’n meddwl mai’r hyn a newidiodd ei feddwl yn y diwedd oedd ei fod yn sylweddoli y gallai’r mesur gael ei drechu yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Roedd yna Gymry pwerus yn Nhŷ’r Arglwyddi ar y pryd, fel yr Arglwyddi Cledwyn, Williams o Mostyn a Prys Davies a chyn-ysgrifennydd Cymru, Peter Thomas. Roedd y rhain yn dadlau’n gryf y dylai’r Llywodraeth gadw at ei haddewid – ac roedd anniddigrwydd o fewn y llywodraeth yn ogystal.”

Gan fod y Llywodraeth yn mynd yn groes i addewid ei maniffesto, fe fyddai’r arglwyddi’n teimlo’n gwbl rydd i wrthod eu cynlluniau mewn achos o’r fath, meddai.