Mae holl drigolion dwy dref yn nhalaith Queensland yn Awstralia wedi gorfod gadael eu cartrefi i ddianc rhag y llifogydd gwaethaf mewn cof yno.
Ar ôl dyddiau lawer o law trwm, mae llifogydd wedi taro miloedd o gartrefi a busnesau dros rannau helaeth o’r dalaith, ac mae rhybudd y bydd ardaloedd cyfain o dan ddŵr am hyd at ddeg diwrnod.
“Mae’n drychineb ofnadwy,” meddai Anna Bligh, prif weinidog talaith Queensland.
“Mae’r gwaith o adfer yn gofyn am biliynau o ddoleri gan y llywodraeth ffederal, llywodraeth y dalaith, llywodraeth leol a chwmnïau yswiriant.”
Fe fu’n rhaid achub holl drigolion trefi Condamine a Theodore gan y fyddin mewn hofrenyddion.
Mae talaith Queensland wedi lansio cronfa i ddioddefwyr y llifogydd gyda miliwn o ddoleri o arian cyhoeddus, ac mae prif weinidog Awstralia, Julia Gillard wedi addo swm cyfatebol gan y llywodraeth ffederal.
Llun: Map yn dangos lleoliad talaith Queensland yn Awstralia (o wefan wikipedia)