Mae’r heddlu’n gobeithio dysgu beth oedd achos marwolaeth y pensaer tirwedd ifanc a gafwyd yn farw ger Bryste.
Mae disgwyl y bydd canlyniadau post mortem ar gael heddiw ar gorff Joanna Yeates, a ddiflannodd yn y ddinas wythnos a hanner yn ôl.
Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff ar ochr ffordd ddydd Nadolig, a hynny tua dwy filltir o’r fflat yr oedd yn ei rannu gyda’i chariad.
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf hefyd yn astudio lluniau camerâu cylch cyfyng oddi ar Bont Clifton sydd ar y ffordd rhwng y fflat a’r fan lle’r oedd y corff.
Ei chariad oedd wedi galw’r heddlu wythnos yn ôl ar ôl dod adref o ymweliad â Sheffield a sylweddoli ei bod ar goll.
Roedd wedi cael ei gweld ddiwetha’n prynu pizza o siop Tesco ar ôl bod allan gyda ffrindiau.
Llun: Y llun ola’ o Joanna Yeates ar y noson pan ddiflannodd hi.