Mae pobol gwledydd Prydain yn mynd yn drymach a thrymach, yn ôl ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi.

Roedd dynion ar gyfartaledd wedi cynyddu o 17 pwys rhwng 1986 a 2000 a merched 12 pwys yn drymach tros yr un cyfnod.

Yn ôl yr ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen, roedd dynion yn drymach oherwydd deiet gwael a diffyg ymarfer corff, tra bod merched yn bwyta rhagor.

Roedden nhw wedi ceisio ystyried gwahanol ffactorau er mwyn i’r ymchwil fod mor gywir â phosib ac mae’n cadarnhau ystadegau swyddogol sy’n awgrymu bod nifer y bobol ordew wedi treblu o fewn 20 mlynedd.

Diffyg ymarfer corff

Yn ôl arweinydd yr ymchwil, diffyg ymarfer corff oedd y prif reswm am y cynnydd pwysau mewn dynion ac roedd nifer o resymau posib am hynny.

“Un esboniad rhannol yw bod dynion yn treulio rhagor o’u bywydau yn eistedd wrth ddesg yn awr – mae gyrfaoedd corfforol yn llai cyffredin nag yr oedden nhw,” meddai Dr Peter Scarborough.