Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynnal ymgyrch i ddal pobol sy’n byw dramor ac yn twyllo tros fudd-daliadau.

Maen nhw’n dweud bod £66 miliwn yn cael eu colli bob blwyddyn wrth i bobol beidio â datgelu eu bod wedi gadael gwledydd Prydain ac eraill yn parhau i hawlio tros bobol sydd wedi marw.

Fe fydd y Llywodraeth yn targedu pobol yn rhai o’r gwledydd lle mae’r problemau gwaetha’, gan gynnwys Portiwgal, Sbaen a’r Unol Daleithiau.

Mae llinell ffôn arbennig eisoes wedi cael ei lansio ym Mhortiwgal er mwyn i bobol allu prepian am eu cymdogion.

“Fe ddylai’r arian yma fod yn mynd i’r bobol sydd ei angen fwya’ ac nid yn pluo nythod troseddwyr sy’n mwynhau’r haul dros y dŵr,” meddai’r gweinidog, yr Arglwydd Freud.

Llun: Benidorm yn Sbaen