Fe fydd siop fwya’ Cymru’n ymuno â’r sêls heddiw wrth i siopwyr heidio i ganol y trefi a’r dinasoedd mawr.
Heddiw y mae John Lewis yn dechrau eu sêl nhw, a hynny’n cynnwys y siop fawr newydd yng nghanol Caerdydd. Mae’r cwmni eisoes yn dweud eu bod wedi cael Nadolig da.
Roedd Caerdydd yn brysur ddoe, yn arbennig rhan newydd canolfan siopa Dewi Sant, sy’n dathlu diwedd ei blwyddyn gynta’. Yn ôl y rheolwyr, mae siopau yno’n cymryd tua £1 miliwn y dydd trwy’r tiliau.
Ddoe, roedd canolfan Dôl yr Eryrod yn Wrecsam hefyd yn brysur ac roedd ychydig gannoedd o bobol yno pan agorodd y drysau heddiw am bump y bore.
A Harrods hefyd
Yn Llundain, heddiw y mae siop y bobol grand, Harrods, hefyd yn dechrau ar eu sêl hithau ond roedd yr enwau mawr eraill, fel Selfridges, yn llawn dop ddoe – er bod streic ar drenau tanddaear wedi achosi trafferthion.
Pan agorodd y drysau am 11 y bore, roedd 8,000 o bobol y tu allan, o gymharu â 2,000 y llynedd.
Mae disgwyl y bydd mwy o fynd nag arfer ar y sêls heddiw wrth i’r siopau annog prynwyr i wario cyn i Dreth ar Werth godi ar 4 Ionawr.
Argoelion gwael
Er hynny, yn gyffredinol, dyw’r argoelion ddim yn dda gyda dau gwmni siopa ym mhob tri yn disgwyl gostyngiad yn eu busnes yn ystod y flwyddyn nesa’.
Yn ôl y consortiwm siopau, y BRC, roedd rheolwyr yn disgwyl blwyddyn anodd gyda’r Dreth ar Werth a thoriadau gwario’n cael effaith.
Llun: Cyntedd Selfridges ddoe (Gwifren PA)