Mae heddlu’n poeni y gallai doctor sydd ar goll fod wedi gwneud amdani ei hun.

Does dim sôn wedi bod am Dr Deborah Anne Pearson, 43 oed, ers iddi gael ei gweld ola’ nos Fawrth pan adawodd ei chartre’ yn Thornthwaite ger Keswick yn Ardal y Llynnoedd.

Daethpwyd o hyd i’w char Volvo du mewn canolfan ymwelwyr y diwrnod wedyn ac mae hofrenyddion yr RAF a’r heddlu wedi bod yn defnyddio offer canfod gwres ac offer gweld yn y nos wrth chwilio andani.

Yn ôl yr heddlu, roedd y meddyg teulu sy’n fam i bedwar o blant rhwng pump ac 14 oed yn teimlo’n “isel” ar y pryd ac maen nhw’n ofni ei bod wedi mynd i’r mynyddoedd i niweidio’i hun.

Yn ôl yr heddlu, byddai unrhyw un a fyddai’n aros allan yn y tywydd diweddar yn marw’n fuan iawn heb yr offer cywir.

Disgrifiad

Y disgrifiad o Dr Pearson yw 5’10”, main, gyda gwallt cyrliog at ei hysgwyddau. Mae weithiau’n gwisgo sbectol.

Pan gafodd ei gweld ddiwetha’, roedd hi’n gwisgo cot lwyd hir, tros gardigan lwyd a sgert hir werdd.

Llun – Heddlu Cumbria