Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y bydd heddiw’n torri pob record am fasnach yn siopau gwledydd Prydain.
Gyda’r tywydd gwael wedi cadw pobol o’r stryd fawr a’r canolfannau, roedd mwy nag erioed o’r blaen wedi bod yn siopa ddoe a disgwyl i’r ffigurau fod yn uwch fyth heddiw.
Fel arfer, siopau bwyd sydd brysura’ Noswyl Nadolig ond, eleni, mae siopau o bob math yn disgwyl gwerthu cry’.
Mae arwyddion hefyd bod y sêls yn dechrau’n gynnar gyda rhai cwmnïau eisoes yn gostwng prisiau ar-lein ac mae disgwyl y bydd £150 miliwn yn cael ei wario ar y We yng ngwledydd Prydain ddydd Nadolig ei hun.
Fe gadarnhaodd y cwmni cardiau credyd Visa Ewrop eu bod wedi delio gyda 25.2 miliwn o werthiannau ddoe ac fe ddywedodd rheolwyr canolfan siopa fawr Brent Cross yn Llundain mai ddoe oedd y diwrnod gorau cyn-Nadolig ers iddi agor yn 1976.