Fe gyhoeddodd yr heddlu eu bod wedi arestio mwy na 50 o bobol mewn cyrch yng Nghaerdydd ganol yr wythnos.

Fe gafodd y mwyafrif eu harestio am droseddau cyffuriau, trais a lladrata.

Roedd yr arestiadau’n cynnwys cipio arian gwerth £2,500, arestio pump am ladrata a nifer oedd ar restr chwilio’r heddlu.

“Efallai nad oedd ond cwpl o ddiwrnodau tan Ddiwrnod Nadolig, ond mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithio’n galed allan yn arestio pobol oedd yn eisiau am droseddau ceir a dwyn,” meddai’r Prif Dditectif Arolygydd, Ceri Hughes.

“R’yn ni’n ymwybodol bod troseddau lladrata ac ymosodiadau yn gallu cynyddu yr adeg yma o’r flwyddyn oherwydd pwysau ariannol, temtasiwn gyda phethau drudfawr yn y cartref a dylanwad alcohol.

“Ein nod yw nid yn unig datrys y troseddau ond hefyd cael y troseddwyr oddi ar y strydoedd i sicrhau bod pawb yn cael Nadolig a blwyddyn newydd diogel a hapus”

“Roedd 4411 llai o ddioddefwyr troseddau yng Nghaerdydd llynedd- felly mae’r ddinas yn mynd yn fwy diogel, ond ni allwn fod yn hunanfodlon”

“Fe fyddwn ni’n parhau i dargedu’r rhai hynny sy’n troseddu yn ein cymunedau.”

Llun: Fan Heddlu De Cymru