Mae’r clwb rygbi cynghrair y Crusaders wedi cyhoeddi eu bod nhw allan o ddwylo’r gweinyddwyr ar ôl i’r cyn berchnogion ail-brynu’r clwb.
Roedd y cadeirydd Ian Roberts a’i gyd-berchennog Geoff Moss wedi rhoi’r clwb yn nwylo’r gweinyddwyr ar 12 Tachwedd er mwyn ceisio lleihau’r ddyled a ddaeth oddi wrth y perchennog cynt.
Mae Roberts a Moss wedi talu swm sydd heb gael ei ddatgelu i ail afael yn yr awenau unwaith eto.
Fe fydd y cwmni newydd yn gweithredu o dan yr enw W Crusaders Limited o hyn ‘mlaen.
Fe gafodd y clwb ganiatâd i barhau i chwarae yn y Super League yn gynharach yn y mis ac fe fyddwn nhw nawr yn gallu edrych ymlaen at ddechrau’r tymor newydd ym mis Chwefror.
‘Rhyddhad mawr’
“Mae’n rhyddhad mawr i ddod allan o ddwylo’r gweinyddwyr ac fe fydd pawb yn gallu edrych ‘mlaen i’r tymor newydd,” meddai prif weithredwr y clwb, Rod Findlay. “Mae llawer o waith wedi cael ei wneud tu ôl i’r llenni i sicrhau sefydlogrwydd i’r clwb.
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd iawn i’r clwb ac mae llawer o waith i wneud eto. Fe hoffwn ni ddiolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth a ffyddlondeb er gwaethaf yr ansicrwydd”
Fe fydd y newyddion yn galluogi hyfforddwr y Crusaders, Iestyn Harries i barhau gyda’i gynlluniau recriwtio ar ôl arwyddo dau chwaraewr newydd gyda chwech wedi gadael y clwb.