Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth y fenyw a gafodd ei lladd gan gi yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i’r perchennog.

Bu farw Barbara Williams ar ôl dioddef ymosodiad gan fastiff Belgaidd yn Wallington, de Llundain, neithiwr.

Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw’n awyddus i siarad gydag Alex Blackburn-Smith. Mae ar ddeall mae ef oedd partner Barbara Williams, perchennog y ci a’r cartref lle digwyddodd yr ymosodiad.

Mae’r heddlu am siarad gydag ef ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd.

Y ci

Mae mastiffs Belgaidd yn gallu tyfu i daldra o 32 modfedd ac yn pwyso hyd at 50kg ond dydyn nhw ddim wedi eu rhestru o dan Ddeddf y Cŵn Peryglus.

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw yn y broses o gysylltu gyda theulu Barbara Williams am ei marwolaeth.

Fe gafodd y ci ei saethu yn y fan a’r lle a chafodd ci bach ei gymryd oddi yno.