Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i fenyw farw wedi gwrthdrawiad ar y ffyrdd yn ardal Caerdydd.

Fe ymadawodd y fenyw oedd yn gyrru car Chevrolet Matiz glas a throi ben i waered ar Heol Pant Y Gored ym Mhentyrch am 4.30pm.

Fe gafodd y fenyw ei chludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd lle bu farw.

Fe gafodd y ffordd ei chau am dair awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliadau.

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad neu a oedd wedi stopio i gynnig cymorth.

Maen nhw hefyd am siarad gydag unrhyw un oedd wedi gweld y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Fe ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 02920 527226.

Llun: Ysbyty’r Brifysgol, lle bu’r wraig farw