Mae teulu’r pensaer ifanc o Fryste sydd wedi bod ar goll ers wythnos yn credu iddi gael ei chipio.

Fe ddiflannodd Joanna Yates, 25 oed, ar noson allan gyda’i chyd-weithwyr nos Wener ddiwethaf.

Fe gysylltodd ei chariad, Greg Reardon gyda’r heddlu nos Sul ar ôl dychwelyd i’w fflat yn Clifton wedi penwythnos yn ymweld â theulu yn Sheffield.

Mae tad a man Joanna Yates, David a Thersea, yn credu y gallai fod yn cael ei dal yn erbyn ei hewyllys.

“Rwy’n credu ei bod wedi cael ei chipio ar ôl cyrraedd ei fflat,” meddai David Yates. “Rwy’n siŵr ni fyddai wedi mynd allan ar ei phen ei hunan.”

Y cefndir

Fe gafodd Joanna Yates ei weld yn gadael tafarn y Ram ym Mryste am 8.00pm. Fe gafodd ei gweld ar gamera cylch cyfyng yn mynd i siop Waitrose ac fe brynodd bizza o Tesco ar ôl ffonio’i ffrind gorau.

Fe gafodd derbynneb o Tesco ei ganfod yn y fflat ynghyd â’r got yr oedd hi’n ei gwisgo, ei ffôn symudol ac allweddi. Ond does dim sôn o’r pizza na’r bocs.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda hwy 0845 456 7000 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.