Anarchwyr sy’n cael eu hamau o osod bomiau a anafodd ddau berson yn ddifrifol yn Rhufain,.

Mae’r heddlu yn yr Eidal yn ystyried a oes cysylltiad rhwng y bomiau yn llysgenadaethau Chile a’r Swistir ag ymgyrch fomio yn Athen, Gwlad Groeg, y mis diwetha’.

Roedd llysgenadaethau’r ddwy wlad ymhlith y targedi bryd hynny hefyd, gydag anarchwyr yn cael y bai. Er hynny dyw awdurdodau Gwlad Groeg ddim yn gweld cysylltiad amlwg.

Mae anarchwyr hefyd wedi eu cyhuddo o ymyrryd mewn protestiadau gan fyfyrwyr yn yr Eidal ac, yn ôl un sianel deledu, roedd nodyn gan anarchwyr wedi ei gael gydag un o’r bomiau yn Rhufain.

Fe fydd y digwyddiad yn creu problemau diogelwch anferth wrth i filoedd ar filoedd o bererinion gyrraedd Rhufain ar gyfer neges Nadolig y Pab.

Llun: Rhufain o’r awyr (Oliver Bonjoch CCA 3.0)