Fe gollodd y Gwyddel Paul O’Connell ei apêl yn erbyn gwaharddiad o bedair wythnos ar ôl carden goch yn erbyn y Gweilch.

Fe benderfynodd panel disgyblu nad oedd y clo rhyngwladol wedi dangos fod penderfyniad y dyfarnwr yn anghywir yn y gêm yng Nghwpan Heineken y penwythnos cyn diwetha’.

Roedd wedi ei anfon o’r cae am daro rhif wyth y Gweilch, Jonathan Thomas, a hynny yn ei gêm gyntaf ers dod yn ôl ar ôl anaf hir.

Fe fydd yn cael chwarae eto ar 10 Ionawr.