Mae Aelod Seneddol o Gymru’n honni bod y wlad yn colli miliynau o bunnoedd am nad yw’r fformiwla i roi arian iddi’n cael ei gweithredu’n iawn.
Yn ogystal â bod “wedi dyddio” ac “yn amhosib ei gweithredu”, mae Jonathan Edwards yn dweud nad yw’r Llywodraeth yn Llundain yn delio’n deg gyda Fformiwla Barnett.
Fe ddangosodd ateb seneddol a gafodd gan Ysgrifennydd y Trysorlys nad oes ffigurau ar wahân yn cael eu gwneud ar gyfer pob cynllun gwario.
Cyhoeddi ffigurau
O dan y Fformiwla fe ddylai Cymru gael hyn a hyn o gyfran – ychydig tros 5% – o wario yn Lloegr ond, yn ôl yr ateb, dim ond ar gyfer adrannau cyfan y Llywodraeth y mae hynny’n digwydd.
Yn awr, mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi galw am gyhoeddi ffigurau Barnett ar gyfer pob cynllun gwario.
Mae Plaid Cymru a’r Llywodraeth Glymblaid yng Nghymru wedi galw am ddiwygio Fformiwla Barnett ar ôl i Gomisiwn Holtham ddangos bod y wlad yn colli tua £300 miliwn y flwyddyn trwyddi.
‘Rhaid i hyn beidio’
“Dim ond ar ôl ystyried popeth arall y mae adrannau Whitehall yn meddwl am Gymru,” meddai Jonathan Edwards. “Rhaid i hyd beidio.
“Rhaid i’r effaith ar y gwledydd datganoledig fod yn ganolog i unrhyw benderfyniad ariannol, nid ei ychwanegu fel rhyw gynffon.
“Mae arnon ni angen fformiwla dryloyw ar sail anghenion gwario yng Nghymru, ond yn y cyfamser, mae Cymru yn haeddu gwell na’r drefn bresennol sydd wedi costio biliynau i ni ers i Lafur ei chyflwyno.”
Y cwestiwn a’r ateb yn San Steffan
Jonathan Edwards: To ask the Chancellor of the Exchequer pursuant to the answer to the hon. Member for Glasgow North of 11 November 2010, Official Report, column 474W, on public expenditure, what discussions he has had with (a) ministerial colleagues and (b) the devolved Administrations on calculating the Statement of Funding Policy for the purposes of the Barnett Formula according to the level of individual programmes rather than at departmental level; and whether he has made an estimate of the effects of calculations made according to the level of individual programme rather than at the departmental level on the level of payments made. [29156]
Danny Alexander [holding answer 7 December 2010]: The 2010 edition of the Statement of Funding Policy was agreed with the Secretaries of State for Scotland, Wales and Northern Ireland following consultation with the devolved Administrations.
Spending review settlements are agreed at departmental level and not individual programme level and the Barnett Formula is applied to total budgets. No Barnett consequentials have been calculated for individual programmes.
Llun: Jonathan Edwards