Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn 48 oed a gafwyd yn agos at gadeirlan Bangor wedi marw o effeithiau’r oerfel.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 9.00am dydd Mercher ar ôl i bobol ddod o hyd i Patrick Cleary yng Ngardd yr Esgob ym Mangor.
Fe gafodd post mortem ei gynnal a chasglu bod y dyn 48 oed o Lanllyfni wedi marw o hypothermia.
Fe ddywedodd Ditectif Ringyll Dewi Jones nad oedd yna unrhyw amgylchiadau amheus ynglŷn â’r farwolaeth a bod y mater wedi cael ei gyfeirio at Grwner Gogledd Orllewin Cymru.
Llun: Eglwys Gadeiriol Bangor (Velela CCA 2.5)