Mae menyw yn ei 40au wedi marw ar ôl i gi ymosod arni yn ei chartref yn ne Llundain.

Fe ddioddefodd y fenyw “llu o anafiadau” yn ystod yr ymosodiad gan fastiff Belgaidd yn Wallington neithiwr.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’w chartref ychydig cyn 9.00pm neithiwr ond bu farw yno. Fe gafodd y ci ei saethu ar unwaith.

Mae post mortem yn cael ei drefnu ond dyw’r heddlu ddim wedi hysbysu ei theulu eto.

Roedd yna o leia’ un person arall yn y cartref adeg yr ymosodiad, ond chafodd neb arall eu hanafu.

Mae mastiffs Belgaidd yn gallu tyfu i daldra o 32 modfedd ac yn pwyso hyd at 50kg ond dydyn nhw ddim wedi eu rhestru o dan Ddeddf y Cŵn Peryglus.

Ymosodiadau eraill

Dyma’r ymosodiad difrifol ddiweddaraf gan gi ar berson eleni, ond y cynta’ ar oedolyn.

• Bu farw Jadin Joseph Mech o Ystrad Mynach ym mis Chwefror eleni ar ôl i ddau gi’r teulu ymosod arno yng nghartref ei fam-gu.

• Fe gafodd merch 18 mis, Zumer Ahmed, ei ladd ar ôl i gi ymosod arni yng nghartref ei theulu yn Crawley ym mis Ebrill.

• Fe gafodd merch pedair oed ei chreithio am oes ym mis Hydref eleni ar ôl dioddef ymosodiad gan gi yn Lee-on-Solent.

Llun: Mastiff Belgaidd (<a href=’http://www.greatdogsite.com/breeds/details/Belgian_Mastiff/’><img src=’http://www.greatdogsite.com/admin/uploaded_files/1198066299belgian_mastiff.jpg’ alt=’Belgian Mastiff’ border=’0′ ></a>)