Mae sylfaenydd gwefan WkiiLeaks yn paratoi am frwydr arall yn y llys i geisio cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Roedd barnwr wedi penderfynu o blaid rhyddhau Julian Assange ddoe ar ôl i’w ffrindiau addo meichiau o £200,000.
Ond ddwy awr yn ddiweddarach fe gafodd y penderfyniad ei drechu yn dilyn apêl gan awdurdodau Sweden.
O ganlyniad i hynny, fe fu’n rhaid i Julian Assange ddychwelyd i garchar Wandsworth yn ne orllewin Llundain.
Fe fydd yn ôl yn y llys o fewn y ddau ddiwrnod nesaf a bydd penderfyniad yn cael ei wneud i’w ryddhau neu beidio.
Mae erlynwyr o Sweden wedi anfon gwarant arestio ryngwladol at Heddlu Llundain, gan restru honiadau o drais, ymyrryd yn rhywiol a rhyw heb gydsyniad.
Gwrthod yr honiadau
Mae Julian Assange yn gwrthod yr honiadau gyda’i gefnogwyr yn credu bod yr ymchwiliadau troseddol a’r ceisiadau i’w ddwyn yn ôl i Sweden yn rhan o gynllwyn gwleidyddol i’w atal.
Gwefan Wikileaks sy’n gyfrifol am gyhoeddi mwy na 250,000 o ddogfennau diplomataidd cyfrinachol yr Unol Daleithiau yn ystod yr wythnosau diwethaf ac fe ail-godwyd y cyhuddiadau pan oedd yr helynt yn ei anterth.
Roedden nhw wedi eu gwneud – a’u gollwng am y tro – pan oedd Wikileaks yn y newyddion ynghynt eleni.
Llun: Julian Assange (Espen Moe CCA 2.0)