Mae yna bryderon bod hyd at 50 o geiswyr lloches wedi cael eu lladd ar ôl i’w cwch chwalu mewn tywydd garw ar un o ynysoedd Awstralia.

Mae achubwyr wedi dechrau chwilio am y bobol ger Ynys y Nadolig yng Nghefnfor India. Maen nhw eisoes wedi dod o hyd i gyrff yn ogystal â rhai sydd wedi byw trwy’r trychineb.

Yn ôl yr awdurdodau, dyw hi ddim yn glir eto faint sydd wedi cael eu lladd na faint oedd ar y cwch yn y lle cynta’.

Fe gafodd rhai o’r achubwyr eu hanafu yn ceisio taflu siacedi achub i mewn i’r môr.

Amheuon

Mae mudiadau sy’n cefnogi ceiswyr lloches yn amau fod yr awdurdodau’n gwybod yn iawn bod y cwch pren ar y môr ac y dylen nhw fod wedi ei atal yn y fath dywydd.

Maen nhw hefyd yn dweud mai polisi digroeso Awstralia at geiswyr lloches sy’n arwain at achosion smyglo a thrychinebau fel hyn.

“Dyw llawer o fanylion y trychineb yma ddim wedi eu cadarnhau o hyd, ond rwyf ar ddeall bod yna farwolaethau ac anafiadau sylweddol, sy’n cynnwys menywod a phlant,” meddai Prif weinidog Talaith Gorllewin Awstralia, Colin Barnett.

Injan wedi methu

Fe ddywedodd un o drigolion yr ynys, Simon Prince, bod injan y cwch wedi methu a bod y tonnau wedi ei gario tuag at y creigiau.

Mae Ynys y Nadolig yn denu ceiswyr lloches oherwydd bod canolfan tros dro yno ar eu cyfer. Roedd pobol ar yr ynys wedi gwylio’n ddiymadferth wrth i’r ceiswyr foddi.

Er ei bod hi fwy na 2,000 o gilometrau o Awstralia, mae hi’n eiddo i’r wlad.

Llun: Map yn dangos ble mae Ynys y Nadolig (CCA 2.5)