Fe arweiniodd Arglwyddes o Gymru frwydr lwyddiannus i atal y Llywodraeth rhag dileu swydd Prif Grwner i Gymru a Lloegr.
Fe bleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi o fwyafrif mawr i wrthod bwriad y Llywodraeth i ddileu’r swydd a oedd wedi ei chreu y llynedd.
Y bwriad yw cael un person i arwain y gwaith o wella gwasanaeth crwneriaid ar ôl beirniadaeth lem am arafwch ac oedi, yn enwedig wrth ymdrin ag achosion milwyr.
Yn ôl y Lleng Brydeinig, roedd y bwriad i ddileu’r swydd yn “frad” ar deuluoedd mewn galar.
Y Farwnes Finlay o Landaf a gynigiodd y gwelliant i gadw’r swydd ac fe enillodd neithiwr o 277 i 165.
Roedd hi wedi dweud na fyddai dileu’r swydd yn arbed arian; yn hytrach, meddai, fe fyddai’n arwain at gynnydd mewn costau.
Barwnes Finlay – y cefndir
Mae Ilora Finlay yn Athro Meddygaeth Liniarol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gyn-Lywydd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol.
Mae hi’n aelod di-blaid o Dŷ’r Arglwyddi, yn eistedd ar y meinciau croes.
Llun: Siambr Ty’r Arglwyddi