Fe gafodd cyfres o streiciau rheilffordd eu cyhoeddi heddiw, gan fygwth anrhefn tros wyliau’r Nadolig a chan fygwth codiad ym mhris tocynnau.

Mae gyrwyr trenau London Underground wedi pleidleisio yn unfrydol tros streicio ddydd San Steffan tros ffrae yn ymwneud â chyflogau. Mae gyrwyr London Midland hefyd yn bwriadu cerdded allan ar Ragfyr 23 tros ffrae arall yn ymwneud â chyflogau ac amodau gwaith; tra bod gweithwyr Trenau Arriva Cymru hefyd o blaid streicio.

Mae aelodau’r undeb Aslef sy’n gweithio ar drenau tanddaearol Llundain, wedi pleidleisio 9-1 o blaid strei.
Mae’r undeb yn mynnu y dylai gweithwyr sy’n dod i’w gwaith ar Ragfyr 26 dderbyn tâl trebl am eu trafferth. Roedd 1,025 o weithwyr o blaid peidio dod i’r gwaith ar Ragfyr 26, a dim ond 127 yn erbyn.

Mae 85% o yrwyr Trenau Arriva Cymru wedi pleidleisio o blaid streic arall tros fater cyflog ac amodau gwaith.