Mae ymosodwr Abertawe, Shefki Kuqui wedi dychwelyd i’r clwb yn dilyn cyfnod ar fenthyg gyda Derby.

Fe dreuliodd chwaraewr rhyngwladol y Ffindir dri mis yn Pride Park, gan sgorio dwy gôl mewn 12 gêm.

Fe fydd nawr ar gael i’r Elyrch wrth iddynt baratoi i chwarae pum gêm mewn 16 diwrnod dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Mae rheolwr Derby, Nigel Clough wedi dweud ei fod yn ddiolchgar i Shefki Kuqi am ei gyfraniad.

“Mae wedi bod yn wych i ni, gan wneud cyfraniad positif ac r’yn ni’n ddiolchgar am hynny,” meddai Nigel Clough.