Fe allai achosion teuluol gymryd yn hirach i fynd trwy’r llysoedd os y bydd Cymorth Cyfreithiol yn cael ei dorri, a phobol yn gorfod eu cynrychioli eu hunain. Dyna rybudd barnwr profiadol.
Mae’r Farwnes Butler-Sloss yn gyn-bennaeth Adran Deuluol yr Uchel Lys, ac mae’n dweud fod yna ychydig iawn o achosion nad ydi hi’n bosib delio â nhw drwy’r drefn o gyd-drafod, fel y byddai’r Llywodraeth yn ddymuno.
Y mis diwetha’, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke, gynlluniau i arbed hyd at £350m y flwyddyn erbyn 2014/15, ac roedd y cynlluniau hynny’n cynnwys torri’n ôl ar dalu Cymorth Cyfreithiol.
Gwastraff amser
Yn ystod sesiwn gwestiynau Ty’r Arglwyddi heddiw, fe ddywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Arglwydd McNally, bod y llywodraeth eisiau symud i ffwrdd o’r drefn bresennol o ddod ag achosion gerbron llysoedd, a’i bod hi’n well delio ag achosion teuluol trwy gyd-drafod.
Ond mae’r Farwnes Butler-Sloss, yn anghytuno’n chwyrn, ac meddai yn Nhy’r Arglwyddi:
“Fel barnwr sydd wedi eistedd mewn nifer fawr o achosion teuluol, lle mae’r ochr yn eu cynrychioli ei hunain, fe alla’ i gadarnhau y byddai’r achosion hyn yn cymryd llawer yn hirach.
“Ydach chi’n sylweddoli bod yna rai pobol sy’n ymladd dros eu plant, ac na wnan’ nhw ddod i gytundeb trwy gyd-drafod?”