Mae Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi bod yn ymbil ar aelodau seneddol i’w gefnogi heddiw, ar noswyl pleidlais dyngedfennol ar ei ddyfodol.
Fe fydd aelodau seneddol yr Eidal yn bwrw pleidlais o hyder yn eu Prif Weinidog yfory, ac fe allay Berlusconi a’i lywodraeth gael ei disodli os aiff pethau yn eu herbyn.
Ond mae’r gwleidydd wedi gwneud apêl ar yr aelodau seneddol i’w gefnogi, a’u rhybuddio mai “twpdra” fyddai disodli llywodraeth ar adeg pan fod sefydlogrwydd yn bwysig i’r wlad sy’n delio â chreisis economaidd.
Mae Silvio Berlusconi wedi ceisio apelio at wrthryfelwyr sydd wedi addo cael gwared arno drwy’r beleidlais yfory. Un o’i addewidion er mwyn ennill pleidleisiau yw ad-drefnu’r cabinet presennol, er mwyn rhoi swyddi llywodraethol i’r rhai sydd yn ei gefnogi.
Prynu pleidleisiau
Mae honiadau, hefyd, o “brynu pleidleisiau” wedi cael eu cysylltu â’r Prif Weinidog – rhwybeth y mae Silivio Berlusconi wedi ei wfftio yn chwyrn.
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu pleidlais yn y ddau dŷ llywodraethol, yn dilyn gwrthdaro chwyrn rhyngddo ef a gŵr a fu ar un adeg yn un o’i gynghreiriaid pennaf, Gianfranco Fini, a chyd-sylfaenydd plaid Berlusconi.
Roedd y Prif Weinidog 74 mlwydd oed yn hynnod boblogaidd ar un adeg, ond mae sgandalau ynglyn a’i fywyd personol wedi bwrw cysgod dros ei waith gwleidyddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda honiadau o bartion gwyllt a chysylltiadau â phuteiniaid.
Yn ei araith i’r Senedd heddiw, pwysleisiodd Silvio Berlusconi ar y risg i’r wlad petai’r llywodraeth yn disgyn.
“Os yw eich pryder dros sefyllfa anodd yr Eidal yn gwbwl onest, yr unig ffordd drwy hyn yw i adnewyddu’r hyder yn fy llywodraeth i,” meddai Silvio Berlusconi.
Byddai pleidlais o’r fath, meddai, yn “brawf o ddoethineb gwleidyddol”.
‘Dim digon o fwyafrif fod yn sefydlog’
Mae disgwyl y bydd Silvio Berlusconi yn ennill yn y Senedd, lle bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar fesur wedi ei gyflwyno gan gefnogwyr y prif weinidog.
Ond mae’r bleidlais yn debygol o fynd yn ei erbyn yn y tŷ isaf, lle mae disgwyl bod y rhwyg gyda’i gyn-gyfaill, Gianfranco Fini, wedi dwyn ei fwyafrif.
Byddai mwyafrif i Berlusconi yn golygu y gallai barhau yn brif weinidog, er mor fach fyddai’r mwyafrif.
Ond ofn rhai yw y bydd y mwyafrif mor fach y bydd y sefyllfa’n arwain at fwy o ansefydlogrwydd gwleidyddol yn yr Eidal, nid llai.