Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud bod rhaid i Gaerdydd roi’r gorau i wneud camgymeriadau syml wrth i’w rhediad siomedig o ganlyniadau barhau.

Mae’r Adar Gleision wedi methu ag ennill yr un o’u pedair gêm ddiwethaf, ac fe gollon nhw o 1-0 i Middlesborough yn Stadiwm Riverside dros y penwythnos hefyd.

“Ar hyn o bryd d’yn ni ddim yn gwneud y pethau syml yn iawn wrth amddiffyn, a does dim sail gyda ni i adeiladu ohono,” meddai Dave Jones.

“Mae’r pasio ymlaen o’r cefn yn wael hefyd. Mae’n rhaid i’r pump yn y cefn i fod yn well na hyn.”


Abertawe yn dynn ar eu sodlau

Mae Caerdydd bedwar pwynt yn is na QPR ar frig tabl y Bencampwriaeth – ond mae gan dîm Neil Warnock un gêm ychwanegol i’w chwarae.

Mae perfformiadau siomedig yr Adar Gleision wedi gadael i Abertawe ddal lan i gofnodi’r un faint o bwyntiau â nhw. Mae Leeds Utd o fewn dau bwynt, a dyw Coventry ddim ond tri phwynt ar eu holau nhw.

Fe fydd Caerdydd yn wynebu Burnely yn Stadiwm Dinas Caerdydd penwythnos nesaf wrth iddyn nhw geisio ail-danio’u tymor.