Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i ddyn a dynes gael eu canfod yn farw mewn ty.
Fe ddaethpwyd o hyd i gyrff dyn yn ei 20au a gwraig yn ei 40au mewn ty yn Mold Crescent, Banbury, Swydd Rhydychen, am 6.45 y bore yma.
Roedd gwraig a merch arall yn y ty, ac maen nhw ill dwy wedi cael eu cludo i ddiogelwch, yn ôl Heddlu Thames Valley.
Fe gafodd gwr 43 mlwydd oed wedi cael ei arestio mewn ty yn Swindon, Wiltshire, y bore yma.
Straeon y cymdogion
“Y cyfan dw i wedi’i glywed ydi fod llofruddiaeth wedi bod, a bod yna fwyell yn rhan o’r digwyddiad,” meddai cymydog a oedd yn dymuno aros yn ddienw.
“Dw i’n gwybod am y ty, ond dw i ddim yn nabod y bobol sy’n byw yno. Mae’n stryd dawel iawn. Dw i erioed wedi clywed am helynt yno.”
Yn ôl cymydog arall a oedd hefyd yn dymuno aros yn ddienw, mae hi’n credu bod gwraig yn byw yn y ty gyda’i mab 20 oed a merch yn ei harddegau, a’u bod nhw wedi symud yno i fyw yn ddiweddar.