Mae Gweinidog Addysg llywodraeth y Cynulliad wedi croesawu canllawiau newydd ar gyfer ysgolion Cymru, er mwyn gwneud yn siwr eu bod nhw’n gwneud y penderfyniad cywir wrth ystyried cau neu beidio yn ystod tywydd gaeafol.
“Roedd y tywydd eithafol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y gaeaf diwethaf wedi golygu bod dros hanner o ysgolion Cymru wedi cau,” meddai Leighton Andrews.
“Rwy’n pryderus ynghylch faint o ddyddiau ysgol y bydd plant yn eu colli oherwydd yr eira a’r rhew.
“Mae’r canllawiau’n pwysleisio pa gamau y gall penaethiaid eu cymryd er mwyn cadw’r ysgol ar agor.”
Mae penaethiaid hefyd yn cael eu cynghori i wneud asesiadau risg ar gyfer yr ysgol, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd.
Pan mae’n rhaid i ysgolion gau, mae cyngor ar gael ynglyn â pha drefniadau y gellid eu gwneud ar gyfer disgyblion blynyddoedd 10-13 i ddysgu o bell neu astudio ar eu pennau eu hunain, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar gyrsiau arholiadau.