Mae undeb Unite wedi rhybuddio heddiw y bydd gweithwyr British Airways yn pleidleisio ynglŷn â chynnal streic arall cyn bo hir.
Yn ôl un o arweinyr Unite, Tony Woodley, does ganddyn nhw “ddim dewis” ond galw pleidlais erbyn hyn, ar ôl methu a dod i gytundeb gyda’r cwmni.
Mae gweithwyr BA eisoes wedi cynnal tair wythnos o streiciau eleni.
Yn ôl Tony Woodley, mae’r gweithwyr yn gwrthwynebu’r ffordd y mae BA wedi trin eu staff, ac wedi eu “herlid yn ddidrugaredd” am wrthwynebu’r toriadau.
Galw am amodau gweithio gwell
Un o’r pynciau llosg yw penderfyniad y cwmni i leihau ar nifer y gweithwyr ar awyrennau sy’n teithio ymhell.
Mae Unite yn galw ar BA i ail-ystyried y newidiadau a gynigwyd y llynedd gan fod sefyllfa ariannol y cwmni wedi gwella.
“Mae’r busnes yn gwneud elw erbyn hyn, ac mae’r uwch-reolwyr yn llenwi eu pocedi gyda’r enillion hyn,” meddai llefarydd ar ran yr undeb.
“Mae BA wedi bod yn ymosod ar y criwiau cabin ers blwyddyn, a rhai ohonyn nhw wedi cael eu herlid yn bersonol, hefyd, am eu bod nhw’n gwrthwynebu BA.”
BA yn rhoi’r bai ar Unite
Ond yn ôl BA, undeb Unite sydd wedi bod yn ymddwyn yn afresymol.
“Fe fu cytundeb rhyngddo’n ni a Tony Woodley ym mis Tachwedd, a dywedodd bryd hynny y byddai’n caniatáu i’r criwiau cabin bleidleisio o blaid neu yn erbyn y cytundeb.
“Ond mae Unite wedi torri eu haddewid, ac yn hytrach wedi penderfynu creu ansicrwydd newydd i gwsmeriaid a gwneud drwg i sawl un o’u haelodau eu hunain o fewn British Airways.”