Fe fydd y ffliw moch yn broblem i Gymru eleni eto, yn ôl rhybudd gan rai o brif swyddogion meddygol y byd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio mai’r ffliw moch H1N1 fydd un o’r firysau ffliw sy’n fwyaf o fygythiad i iechyd pobol y gaeaf yma.
Heddiw, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi galw ar bobl i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiad yn erbyn y ffliw – brechiad sydd eleni yn cynnwys y straen H1N1, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd.
“Cael eich brechu yw un o’r camau mwyaf effeithiol ar gyfer achub bywydau a diogelu eich iechyd,” meddai Dr Jewell. “Dyma’r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o warchod pobl rhag y ffliw a’i gymhlethdodau.”
Gobaith Llywodraeth y Cynulliad eleni yw y bydd 75% o bobl dros 75 oed wedi cael eu brechu yn erbyn y ffliw cyn y Nadolig, yn barod ar gyfer cyfnod gwaethaf y ffliw ym misoedd Ionawr a Chwefror.
Hyd yn hyn, dim ond 53% o bobl sy’n 65 oed neu’n hŷn sydd wedi derbyn y brechiad, tra bod y canran o bobl o dan 65 ond sydd yn y categori perygl uchel yn is o lawer, ar 34%.
Yn ôl Dr Tony Jewell, y rhai sydd angen cael eu brechu yw pobol dros 65 oed a menywod beichiog, yn ogystal â phobl sy’n dioddef o glefyd siwgr, imiwnedd gwael, clefydau anadlu, clefydau’r galon a chlefydau niwrolegol.