Mae capten Lloegr, Andrew Strauss wedi dweud ei fod o’n ffyddiog y bydd ei dîm yn ennill Cyfres y Lludw eleni ar ôl sicrhau gêm gyfartal yn y prawf cyntaf.

Roedd Lloegr 221 o rediadau y tu ôl i Awstralia ar ôl y batiad cyntaf, ond fe sgoriodd y Saeson 517-1 er mwyn sicrhau bod y gêm yn gorffen yn gyfartal.

Fe sgoriodd Alastair Cook 235 o rediadau, cyfrannodd Jonathan Trott 135 o rediadau a sgoriodd y capten 110 o rediadau.

Dyma’r tro cyntaf ers 1924 i dri batiwr cyntaf Lloegr sgorio cant o rediadau’r un.

“Mae pawb wedi dweud pa mor bwysig oedd y prawf gyntaf yn Brisbane, ac mae hi’n wych sicrhau gêm gyfartal,” meddai Andrew Strauss.

“Rydym ni’n ffyddiog y gallen ni fynd yn ein blaen i ennill y gyfres. Fe fyddwn ni’n hapus mynd i Adelaide ar gyfer yr ail brawf.”